NA GODWN BYTH ETO!
Wel, dyna ni, cafwyd
y dangosiad cyntaf o bennod 6 o gyfres diweddara y 'Crown' yn y Galeri,
Caernarfon ar nos Lun y 25ain o Dachwedd. Gwyddom i gyd erbyn hyn mae pennod ar
Arwisgiad Charles Windsor yn "Dywysog Cymru" yn 1969 yw pennod 6 o'r
gyfres a gwyddom mai Bafta Cymru oedd yn cynnal y 'premiere' yn y Galeri a bod
yr actorion 'Cymraeg', a gymrodd ran yn y bennod, i gyd yno i gymryd rhan mewn
sesiwn 'holi ac ateb' wedi'r dangosiad. Ymddengys, yn ogystal, fod yna
bresenoldeb cryf o'r 'crachach' yn y noson, pob un wedi dod yna i 'lyfu tin' ac
i 'glaforio' yn eu brwdfrydedd ar gyfer yr Arwisgiad nesaf. Roedd Dafydd Iwan,
y bradwr mawr diweddara a ffrind newydd mynwesol Charles Windsor yno wrth gwrs,
ac yn rwbio'i ddwylo wrth feddwl am yr arian mawr oedd yn mynd i ddisgyn, am
flynyddoedd i ddod, i'w gyfrif banc, gan fod ei gân, Carlo, yn cael ei
ddefnyddio yn y bennod - ac roedd yn ddigon hy i sylwadu ar y cyfryngau, wedi'r
ymddangosiad,fod y bennod yn un da! Ia, da er budd pwy Dafydd? Yn fy nhyb i, tydi
WYLIT, WYLIT LYWELYN ddim yn ddigon cryf ei neges i ddisgrifio bradwriaeth cywilyddus y dyn
yma sydd wedi bradych geiriau ei ganeuon ei hunan, sawl un yn disgrifio dienyddio
Llywelyn ac yna ei frawd Dafydd er mwyn dinistrio Ty brenhinol Gwynedd am byth,
a peidier i ni byth anghofio iddo gyfansoddi cân i Ferthyron Abergele, y ddau wladgarwr clodwiw a gollodd eu
bywydau tra’n brwydro yn erbyn Arwisgiad 1969!
Mae'n amlwg bod Dafydd Iwan bellach wedi dewis i gynorthwyo'r drefn Prydeinig i geiso a sicrhau na fydd gwrthwynebiad i'r arwisgiad nesaf - ac mae'n gallu lluchio llwch i lygaid y Cymry Cymraeg am iddynt ei ystyried fel y 'Gwrw iaith'. Caiff gyfarfod â Charles Windsor yn ei dŷ Hâf yn Myddfai heb i neb ddweud bw na ba! Caiff sefyll o flaen 8,000 o Gymry ar y sgwar yng Nghaernarfon i ddatgan ei gariad tuag at y castell 'na sy'n llifo a gwaed Cymreig heb i neb o'r 8,000 ddweud 'bw na ba'! yn hytrach, cafodd ei gymeradwyo gan y dorf! WYLIT WYLIT Llywelyn yn wir!
Mae'n amlwg bod Dafydd Iwan bellach wedi dewis i gynorthwyo'r drefn Prydeinig i geiso a sicrhau na fydd gwrthwynebiad i'r arwisgiad nesaf - ac mae'n gallu lluchio llwch i lygaid y Cymry Cymraeg am iddynt ei ystyried fel y 'Gwrw iaith'. Caiff gyfarfod â Charles Windsor yn ei dŷ Hâf yn Myddfai heb i neb ddweud bw na ba! Caiff sefyll o flaen 8,000 o Gymry ar y sgwar yng Nghaernarfon i ddatgan ei gariad tuag at y castell 'na sy'n llifo a gwaed Cymreig heb i neb o'r 8,000 ddweud 'bw na ba'! yn hytrach, cafodd ei gymeradwyo gan y dorf! WYLIT WYLIT Llywelyn yn wir!
A beth am 'wladgarwyr' Cymreig heddiw? ddaru
gwladgarwyr Gwynedd bicedu mewn protest tybed? NADDO yw'r ateb Dim 'smic', na
ba na bw' oddi wrth yr holl wladgarwyr hynny o Wynedd sy'n gosod delwedd o
ddwrn gyda'r alwad 'FE GODWN NI ETO' byth a beunydd ar y 'facebook' 'ma! a dim
'smic' na 'bw na ba' oddi wrth y miloedd sydd wedi bod yn gorymdeithio am
ANNIBYNIAETH! Wel, gellir anghofio am annibyniaeth os na ellir dangos i
Lywodraeth Lloegr a'r 'Crachach Cymreig' na fyddwn yn caniatau i Arwisgiad
arall gymryd lle heb ymladd yn ei erbyn. Does dim angen bod yn Einstein i
synhwyro bod pwrpas gwleidyddol sinicaidd du ôl i roi pwyslais ar y 'Gymraeg'
yn y bennod dan sylw,, a'r pwrpas hynny oedd i ennill cefnogaeth, yn hytrach na
gwrthwynebiad, y Cymry Cymraeg eu hiaith i'r arwisgiad nesaf.
Ond, dylid edrych du
hwnt i chwant a barusrwydd y Crachach Cymraeg, gallaf ddarogan yma yn gwbl
hyderus, os canieteir i arwisgiad arall gymryd lle, gellir ddweud 'ta-ta' i
Annibyniaeth ac 'helo' i ddiffoddiant Cymru fel cenedl ac, i'r iaith Gymraeg
fel iaith byw.
WE SHALL NOT ARISE AGAIN!
Well, there we are,
the premiere of episode 6 of the latest series of The Crown was shown at the
Galeri in Caernarfon on Monday night. We all know by now that this episode is
concentrated on the 1969 Investiture of Charles Windsor as "Prince of
Wales" and we are all aware than the 'premiere' at the Galeri was
organised by Bafta Cymru and that the Cymraeg speaking actors that had parts in
the episode were also present to participate in a 'question and answer' session
following the premiere. It has since become obvious that there was, also, a
strong presence of "Crachach Cymreig" in attendance, each having
taking advantage of the opportunity to "arse lick" and salivate in
anticipation of how they could personally benefit in some way come the next
investiture. Amongst these, was Dafydd Iwan, Cymru's latest arch traitor and
Charles Windsor's newest best friend, who was there, rubbing his hands in
anticipation as he thought about all the money that was going to flow into his
bank account, for years, as a result of his agreeing for his song 'Carlo' to be
used for the production and, he had the audacity to report on camera to the
media following his viewing of the episode, and whilst still rubbing his hands,
that the episode was a good one! Yes, good for who Dafydd? WYLIT, WYLIT Lywelyn
does not come anywhere near describing betrayal as far as this traitor is
concerned; not only has he betrayed his own songs, a number of them about the
brutal execution of Llywelyn and the barbaric execution of Dafydd and the
deliberate destruction of the Gwynedd Royal Dynasty - as well as one song on
the tragic deaths of the Abergele Martyrs who lost their lives for Cymru whilst
fighting against the Investiture', he has allowed himself to be used to
discourage protests and action against the next investiture for his own greedy
and selfish ends!
But, did the Cymric
patriots protest or picket the 'premiere' inquestion? An astounding No! is the
reply to that question. Not a ‘murmur’ or a ‘whimper’ in protest from those
placing a clenched fist along with the 'FE GODWN NI ETO - WE WILL RISE AGAIN
usual cry we see in posts on this f.b on a daily basis and no 'murmur' or
'whimper' in protest from the thousands that have been marching for
INDEPENDENCE in Cymru during the last year!
Well, I am confident
to place my prediction that we can totally forget any hope of Independence
if we cannot show the Westminster
government, their royalty and the Crachach Cymreig collaborators that we will
NOT tolerate another Investiture lying down. It does not take an Einstein to
work out that there was a very cynical political reasoning behind the decision
to give the Cymric language priority status in this production; it was done in
order to win the support, rather than the opposition, of the Cymric speakers to
another Investiture but, if Cymru and, the Cymric language is to have any hope of
survival in this global age, we must look beyond the ambitions and greed of the
Crachach Cymreig for, if we allow another Investiture of another English royal
to take place in Caernarfon, we can say 'goodbye' to Cymric Independence and
'hello' to the end of Cymru as a nation and to the Cymric language as a living
language.
https://www.youtube.com/watch?v=3xAnHD2YeGg
https://rhuorddraig.blogspot.com/2019/11/no-more-pointless-slogans-it-is-time-to.html
https://gethingruffydd.blogspot.com/2019/11/bafta-cymru-colonial-collaborators-on.html
https://glyndwrramblers.blogspot.com/2019/11/15-rhagfr-2019-glyndwr-ramblers-ramble.html