PWYSIG!
Bythefnos yn ôl, gosodwyd deiseb ar Change.Com yn galw am
gefnogaeth i gael gwared â cherflun Edwart VIII oddi ar dir yr Hen Goleg yn
Aberystwyth. Ymddengys, ar y wyneb, mai dim ond 49 o wladgarwyr oedd wedi
llofnodi’r ddeiseb ond, gwyddys nad yw hynny’n gywir gan fod nifer o wladgarwyr
wedi cysylltu â fi’n uniongyrchol i gadarnhau iddyn nhw lofnodi ond, TYDI’R
ENWAU YMA DDIM WEDI YMDDANGOS AR Y RHESTR O ENWAU AR Y DDEISEB! Ymddengys
felly, fod yna ‘gemau brwnt’ ar weill yn rhwystro enwau rhag cael eu nodi a’u
cynnwys ar y ddeiseb! Mae’r union ‘tactegau brwnt yma’ wedi bod ar weill
parthed ein blociau a ffilmiau YouTube ers i ni gychwyn eu cynhyrchu
blynyddoedd yn ôl. Does dim modd i ni brofi hyn wrth gwrs ond, mae’n amlwg nad
yw’r ‘pwerau sy’n bod’ am i ni ‘ledaenu’r efengyl’ - rhy beryglus i’r drefn, ac
mae ganddyn ‘nhw’ rheolaeth lawn dros y ‘cyfryngau cymdeithasol wrth gwrs. Ond, ‘mae mwy nac un ffordd o gael Wil i’w wely yn does, ac
un o’r ffyrdd hynny yw i ‘fynd i lygad y ffynnon’ ac i’r diben hynny, rwyf wedi
gyrru’r llythyr isod (yn Gymraeg a Saesneg) i Is- Ganghellor, Prifysgol
Aberystwyth, yn gofyn, yn gwrtais, i’r Brifysgol gael gwared ar y cerflun oddi
ar dir yr Hen Goleg am resymau ddigon eglur.
Gofynnir rŵan i bawb ohonoch sy’n cytuno y dylid cael gwared
ar y gofeb, yn cynnwys y sawl oedd wedi
llofnodi’r ddeiseb, i yrru un ai copi o’r llythyr isod neu un o’ch
cyfansoddiad eich hunan, i’r Prifathro, Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor y
Brifysgol i gefnogi’r achos a chadarnhau i ni fod o ddifrif am weld y gofeb dan
sylw yn cael ei ddiarddel oddi ar dir yr Hen Goleg.
Dylid gyrru eich llythyrau i: Prifathro Elizabeth Treasure,
Swyddfa’r Is-Ganghellor, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, Ceredigion. E-bost. vice-chancellor@aber.ac.uk
A petition was placed on Change.com calling for
support for the removal of the Edward VIII statue from the grounds of the Old College ,
Aberystwyth. It appears 'at face value' that only 49 people had signed that
petition by the weekend but, we know that is not the case at all as many
supporters eager to get rid of this 'disgusting obscenity from Cymru have
contacted me personally to confirm that they have signed but their names are
not listed! It seems that there are "dirty
tactics" afoot to stop names being added to the petition! We have had the
same problem with our blogs and YouTube films over the years but have had no
means of proofing it but, obviously, there are' forces' that do not want us to
rock the boat and they are in total control of social media platforms. As an alternative 'means to an end', we have now sent a
letter to Prof Elisabeth Treasure, the Vice Chancellor of Aberystwyth
University on behalf of the Cymric History Matters Campaign requesting that the statue be removed
from the grounds of the Old College with an explanation as to why it should be
removed. Please see two versions of the letter, in Cymraeg and English, below.
I have kept a list of the names that did appear
on the petition and I will now ask one and all to send a copy of the letter
below, in Cymraeg or English - or both if you should so wish, to the Vice
Chancellor so that it can be seen that we are very serious about seeing this
statue removed. The address letters should be sent to is: Professor Elizabeth
Treasure, Vice Chancellor's Office, Aberystwyth
University College , Aberystwyth. Email is: : vice-chancellor@aber.ac.uk
Ymgyrch Mae Hanes
Cymru'n Cyfrif
email:sifl@hotmail.co.uk
Annwyl Prifathro,
Fel man cychwyn, gobeithiaf i mi fod yn cyfathrebu gyda'r person cywir ac
os nad ydwyf, yn gobeithio caf faddeuant ac y byddwch yn barod i gynorthwyo
drwy basio'r ohebiaeth yma'n flaen i'r adran a pherson cywir.
Mae Ymgyrch Hanes Cymru'n Cyfrif yn
cysylltu gyda Swyddfa'r Is-Ganghellor i roi gwybod am y teimladau cryf o
gasineb sydd gan wladgarwyr Cymru tuag at y cerflun o Edwart VIII sydd wedi
sefyll ar dir yr Hen Goleg ers 1927. Mae’n siŵr i chi fod yn ymwybodol bod sawl
ymosodiad wedi bod ar y cerflun dan sylw dros y blynyddoedd a nawr, gyda
deffroad a chydnabyddiaeth o'r newydd o hanes trefedigaethol Prydain ledled y
byd yn cael ei sbarduno yn dilyn y modd milain a chyhoeddus bu i George Floyd
gael ei ladd yn Minneapolis, Minnisota, mae protestwyr yn mhobman yn ymgyrchu i
gael gwared ar symbolau o goloneiddio fel enwau strydoedd, placiau a chofebion.
Mae Cymru hefyd, wrth gwrs, yn un o drefedigaethau Prydain ac mae 'na
symbolau i'n hatgoffa'n ddyddiol o hynny ar hyd a lled ein cenedl fach. Felly,
yn yr oes gwawriol sydd ohoni lle mae'r Cymry am fynegi hyder o'r newydd yn eu
cenedl drwy orymdeithio, unwaith eto, ar hyd y ffordd i Annibyniaeth, rydym
ninnau hefyd am waredu ein tir o'r symbolau/ atgofion yma o'n sefyllfa
drefedigaethol ac am gychwyn yn syth ar y gwaith drwy gael gwared â cherflun
Edwart VIII oddi ar dir yr Hen Goleg, a hynny am y rhesymau canlynol.
Wedi i'r Edwart yma ildio coron Lloegr, adnabyddid ef fel y Dug Windsor, merchetwr
o fri a chefnogwr a chydweithredwr brwd a'r Natsïaid. Rhoddwyd y swyddogaeth
iddo o fod yn Lywodraethwr ar y Bahamas, yn ddigon pell o Brydain, ac yno,
datblygodd i fod yn Lywodraethwr llygredig iawn; dim y math o bersonoliaeth sy'n
addas fel 'rol-model' i fyfyrwyr nac i neb arall. Felly, mae Ymgyrch Hanes Cymru'n Cyfrif yn galw ar Coleg Prifysgol Cymru i
gael gwared â'r cerflun dan sylw oddi ar dir yr Hen Goleg gan iddo fod yn
symbol trefedigaethol annymunol, iselwaeliedig.
Mae Ymgyrch Hanes Cymru'n Cyfrif yn
deall y bydd yna reidrwydd i drafod y cais uchod mewn cyfarfod o bwyllgor sydd
â chyfrifoldeb dros faterion o'r math ac yn hapus i ganiatáu amser rhesymol ar
gyfer y broses hynny cyn penderfynu ar y cam nesaf ond, byddem yn ddiolchgar o
ymateb buan gyda'r wybodaeth parthed y dyddiad y bydd y cais yn cael ei drafod.
Diolch blaen llaw am eich cydweithrediad â'r mater.
Yn gywir
Siân Ifan
Ar ran Ymgyrch Hanes Cymru'n Cyfrif
https://sianifan.blogspot.com/2020/06/campaign-petition-to-remove-edward-viii_30.html
The Cymric History Matters Campaign
The Cymric History Matters Campaign
email:sifl@hotmail.co.uk
Dear Professor Treasure,
In the first instance, I do hope I am corresponding with the appropriate
person, and hope that you will forgive me if I'm not and will pass this
correspondence on to the correct quarters.
The Cymric History Matters
Campaign movement has
instructed me to approach the Vice Chancellor's Office at Aberystwyth University to convey the
strong feelings felt and expressed by Cymric patriots throughout Cymru in
regards to the 'hated' Edward VIII statue that has stood in the grounds of the
Old College since it was erected in 1923.
As you must be aware, attacks on the
aforementioned statue has, already, been
carried out in the past and now, recent
protests in, both, America and Britain, following on the brutal and public
killing of George Floyd in Minneapolis, Minnesota, has bought with it a new global awakening and
recognition in regards to Britain's colonial past, prompting angry protesters to turn their attention to symbols of colonialism such as statues and plaques.
Cymru, of course, is also a colony of Britain and we, also, have numerous
symbols of our colonialism in the form of street names, plaques and statues,
put in place or erected to commemorate and to glorify our colonizers so, in
this age of awakening when the Cymry are displaying a new confidence in our
nationhood by, once more, marching on the road to our Independence, we feel that we, also, should be turning our
attention to the removal of these every day reminders of our colonialism and
that we should immediately commence on the removal program with the removal
of the aforementioned Edward VIII statue from the grounds of the Old College
for the following reasons.
Edward VIII, who abdicated the English throne, then to assume the title of
the Duke of Windsor, was a renowned racist, Nazi sympathizer and collaborator
and a womanizer who, following his abdication, became the corrupt Governor of
the Bahamas .
He is certainly not a role model for students or any other person to look up
to, therefore, on behalf of The Cymric
History Matters Campaign movement I am
now officially calling upon Aberystwyth UCW to arrange for the immediate
removal of the aforementioned statue from the Old College site on the grounds that
he is a disparaging symbol of British colonialism in Cymru.
We The Cymric History Matters
Campaign realize that there will be a need for the above to be discussed
by the relevant committee in charge of such matters and we are happy to allow a reasonable period of time for this
process but, I would appreciate a response to this correspondence, informing us
as to how long it is likely to take
before the matter in question is discussed by the relevant committee.
Thanking you in anticipation of your cooperation on the issue.
Sincerely
Ms Sian Ifan
INFORMATION LINKS
https://cofiwn.blogspot.com/2020/06/cofiwn-shared-memory-cymric-national.html
https://sianifan.blogspot.com/2020/07/rutellis-edward-viii-aberystwyth.html
https://hanescymrugoch.blogspot.com/2020/06/columbus-going-going-gone-now-if-only.html
https://www.pbs.org/newshour/nation/why-more-people-are-celebrating-indigenous-peoples-day
https://www.change.org/p/removal-of-christopher-columbus-statues-in-columbus-ohio
https://sianifan.blogspot.com/2020/07/rutellis-edward-viii-aberystwyth.html
https://hanescymrugoch.blogspot.com/2020/06/columbus-going-going-gone-now-if-only.html
https://www.pbs.org/newshour/nation/why-more-people-are-celebrating-indigenous-peoples-day
https://www.change.org/p/removal-of-christopher-columbus-statues-in-columbus-ohio